Quakers across Wales cut bureaucracy to realise Quaker vision/Crynwyr yng Nghymru yn symleiddio’u strwythurau er mwyn gwireddu gweledigaeth Grynwrol

In a bid to revitalise their community by simplifying governance, Quakers across Wales and Southern Marches have agreed to become one charity/Mewn ymgais i adfywio eu cymuned trwy symleiddio'u strwythurau, mae Crynwyr ar draws Cymru a'r Gororau Deheuol wedi cytuno i ddod ynghŷd fel un elusen.

walkers in the hills
To simplify their community Quakers across Wales and Southern Marches will become one charity/Mewn ymgais i adfywio eu cymuned trwy symleiddio’u strwythurau, mae Crynwyr ar draws Cymru a’r Gororau Deheuol wedi cytuno i ddod ynghŷd fel un elusen, photo credit: Helen Oldridge for Quakers in Britain

This move has bold implications for Quakers across the United Kingdom, offering a way to cut bureaucracy at a time when volunteers are scarce, and many are keen to focus on living their beliefs.

After three years of work, the four Quaker area meetings in Wales and Southern Marches, as well as CCQW (Crynwyr Cymru - Quakers in Wales, previously known as Meeting of Friends in Wales) will now have one trustee body, instead of five.

The changes were prompted by Quakers in Britain's Simpler Meetings project, which aims to find and share ways to make Quaker meetings easier to run. Scotland and London are also looking at simplifying their area meeting trustee bodies.

One of the four area meetings recorded that the changes “are not just about practical matters, but are primarily spiritual – about being a Quaker, doing Quaker, trusting one another, working across geographical boundaries, simplicity, clearing away obstacles and yes living adventurously, yet prudently.

[QUOTE-START]

The basic aim is to free ourselves to travel the path of our individual spiritual lives

- Diana Morrison-Smith

[QUOTE-END]

“One imperfect body is better than five, reducing and not duplicating legal requirements, freeing us for our spiritual home."

There are around 40 Quaker meetings in Wales and Southern Marches, and the Symud Ymlaen/Moving Forwards committee (link here) worked closely to understand their needs and concerns.

The committee of 12 includes two from each of North Wales, South Wales, Mid Wales and Southern Marches area meetings, as well as CCQW, alongside the Quaker Life local development worker and a convenor from outside the area.

A dozen Qualms and Questions sessions were held, including two with a Welsh language interpreter and what had been thought of as an administrative exercise became a much deeper examination of how Quakers across the area identified themselves.

Committee member Diana Morrison-Smith writes: “The basic aim is to free ourselves to travel the path of our individual spiritual lives, and work together in our local meetings to realise our Quaker vision, without being side-tracked by the interminable, and often suffocating, demands of the bureaucracy with which we have saddled our individual AMs over the years."

The restructure, which will examine creative ways of fulfilling tasks, is expected to take another year, after which area meetings and CCQW will keep their current roles, except for trustee matters.

CCQW has responsibilities on behalf of Britain Yearly Meeting to represent and promote Quaker life and witness in Wales, including communicating with the Senedd, and maintaining relationships with voluntary and public groups.


Gallai'r cam beiddgar hwn dorri cwys newydd i Grynwyr ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnig ffordd i dorri ar fiwrocratiaeth ar adeg pan fo gwirfoddolwyr yn brin, a llawer yn awyddus i ganolbwyntio ar fyw yr hyn a gredont.

Wedi tair blynedd o gynllunio, bydd gan y pedwar cyfarfod Rhanbarthol yng Nghymru a'r Gororau Deheuol, yn ogystal â CCQW (Crynwyr Cymru - Quakers in Wales, a elwid gynt yn Gyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru) un corff ymddiriedolwyr, yn lle pump.

Ysgogwyd y newidiadau gan brosiect Symleiddio Cyfarfodydd y Crynwyr ym Mhrydain, sy'n ceisio darganfod a rhannu dulliau o wneud cyfarfodydd Crynwyr yn haws i'w cynnal. Mae'r Alban a Llundain hefyd yn edrych ar symleiddio strwythurau'r cyrff ymddiriedolwyr yn eu cyfarfodydd Rhanbarthol.

Cofnododd un o'r pedwar cyfarfod rhanbarthol nad yw'r newidiadau “yn ymwneud â materion ymarferol yn unig. Yn hytrach, maent yn bennaf yn ysbrydol – yn ymwneud â bod yn Grynwr, ymarfer Crynwriaeth, ymddiried yn ein gilydd, gweithio ar draws ffiniau daearyddol, symlrwydd, clirio rhwystrau a byw'n anturus, ond eto yn ddarbodus.

[QUOTE-START]

Y nod sylfaenol yw rhyddhau ein hunain i grwydro llwybr ein bywydau ysbrydol unigol

- Diana Morrison-Smith

[QUOTE-END]

“Mae un corff amherffaith yn well na phump, gan leihau a sicrhau nad ydym yn dyblygu gofynion cyfreithiol, a'n rhyddhau i'n cartref ysbrydol."

Mae yna oddeutu 40 o gyfarfodydd Crynwyr yng Nghymru a'r Gororau Deheuol, a bu pwyllgor Symud Ymlaen/Moving Forwards (dolen yma) yn cydweithio'n agos â hwynt i ddeall eu hanghenion a'u pryderon.

Mae'r pwyllgor o 12 a fu'n gweithio ar y cynlluniau yn cynnwys dau o bob un o gyfarfodydd rhanbarthol Gogledd Cymru, De Cymru, Canolbarth Cymru a'r Gororau Deheuol, yn ogystal â CCQW, ochr yn ochr â gweithiwr datblygu lleol Quaker Life a chynullydd allanol.

Cynhaliwyd dwsin o sesiynau Cwestiynau a Phryderon, gan gynnwys dau gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg, a datblygodd yr hyn a ystyriwyd yn gyntaf fel ymarfer gweinyddol i fod yn archwiliad llawer dyfnach o hunaniaeth Crynwyr yng Nghymru a'r Gororau Deheuol.

Eglura Diana Morrison-Smith, aelod o'r pwyllgor: “Y nod sylfaenol yw rhyddhau ein hunain i grwydro llwybr ein bywydau ysbrydol unigol, a chydweithio yn ein cyfarfodydd lleol i wireddu ein gweledigaeth Grynwrol, heb gael ein mygu gan ofynion biwrocrataidd diderfyn, sydd wedi pwyso ar ein Cyfarfodydd Rhanbarthol dros y blynyddoedd."

Disgwylir i'r ailstrwythuro, a fydd yn archwilio ffyrdd creadigol o gyflawni tasgau, gymryd blwyddyn arall, ac ar ôl hynny bydd cyfarfodydd rhanbarthol a CCQW yn cadw eu swyddogaethau presennol, ac eithrio materion ymddiriedolwyr.

Mae gan CCQW gyfrifoldebau ar ran Cyfarfod Blynyddol Prydain i gynrychioli a hyrwyddo bywyd a thyst y Crynwyr yng Nghymru, gan gynnwys cyfathrebu â'r Senedd, a chynnal perthnasau gyda grwpiau gwirfoddol a chyhoeddus.

Learn more about Simpler Meetings here/Dysgwch fwy am Symleiddio Cyfarfodydd yma